Hela’r Dryw

Dryw bach ydyw’r gwr, amdano mae stwr …

Phyllis Kinney yn son am draddodiad Hela’r Dryw

Byddai Hela’r Dryw yn digwydd yng Nghymru fel arfer rhwng 6ed Ionawr a’r 12fed, sef Nos Ystwyll.  Arferiad yn gysylltiedig â’r arfer o ymweld â chartrefi i ddymuno lwc dda oedd hwn, rhan o’r dathliadau yn ymwneud â throad y rhod ganol gaeaf. Ym Mhrydain roedd traddodiad Hela’r Dryw yn mynd yn ôl ymhell, yn enwedig yn Iwerddon a Chymru, er fod yr arferiad hefyd yn digwydd mewn rhannau eraill o Ynysoedd Prydain, gan gynnwys Yr Alban, Ynys Manaw yn ogystal â Lloegr. Mae arferion yn newid dros y blynyddoedd ond yn y bôn roedd yn ymwneud â chriw o bobl ifanc yn mynd allan i ddal dryw – yr aderyn lleiaf un. Weithiau byddai’n cael ei ladd ond dro arall byddai’n cael ei ddal mewn caets a elwid yn ‘elor’ ac, yn fyw neu’n farw, byddai’n cael ei gludo mewn gorymdaith drwy’r gymdogaeth gan foli’r dryw fel Brenin yr Adar. Byddent bob amser yn galw yn y ‘plas’ yn ystod eu gorymdaith oherwydd byddent yn cael gwahoddiad i fynd i mewn i gael bwyd a gwasail, ac arian weithiau.

Yn Sir Benfro byddai cyfnod hela’r dryw yn cael ei alw’n ‘Twelfth-tide’. Yno, byddai’r dryw’n cael ei ddal mewn bwthyn bychan o bren wedi ei wisgo mewn rhubanau. Y tu allan i’r drysau byddent yn canu

Dryw bach ydyw’r gwr,  Amdano mae stwr,
Mae cwest arno fe,  Nos heno ’mhob lle.
Fe ddaliwyd y gwalch,  Oedd neithiwr mor falch,
Mewn ’stafell wen deg,  A’i dri brawd ar ddeg

Yng ngogledd Cymru roedd y gân yn wahanol – gwahanol eiriau a mydr gwahanol yn cael ei chanu ar alaw wahanol. Cwestiwn ac ateb bob yn ail yw’r penillion – y pennill cyntaf yn gofyn cwestiwn a’r ail yn cynnig ateb, fel arfer gyda disgrifiad, digrif yn aml, o’r helfa a’i chanlyniadau:

“Ble rwyt ti’n mynd?”         “Mynd i’r coed”
“Beth wnawn ni yno?         “Hela’r Dryw bach”
“Ble cewch chi hyd iddo?”     “O dan y llwyn”
“Sut cawn ni o adref?”     “Ceffyl a throl”
“Sut gwnawn ei fwyta?”     “Cyllell a fforc”   ag ati

Er fod amryw o ganeuon hela’r dryw wedi eu casglu yng ngogledd Cymru, ymddengys nad oes disgrifiad o’r arferiad yno, ond mae nodyn yng Nghylchgrawn y Gymdeithas Alawon Gwerin I, tudalen 106, yn crybwyll gwas ffarm anllythrennog o Lanrhaeadr-ym-Mochnant yn canu fersiwn o gân hela’r dryw. “Byddai’n arfer ei chanu mewn math o siant a oedd yn hynod o ddiddorol i wrando arno a byddai’r gweision eraill yn tyrru i’r llofft stabal i’w glywed yn ei chanu ac i’w weld yn ei hactio.” Mae’r cyfeiriad at actio yn awgrymu y gallai’r gwahanol benillion fod wedi eu hactio fel rhan o’r ddefod.

Fe ddarfu’r arferiad o hela’r dryw yng Nghymru ers tro byd, ond ymddengys fod yr arferiad wedi ei adfywio ar Ynys Manaw, gyda dathliadau drwy gydol y dydd a dawnsio yn y dref, a grwpiau offerynnol mawr yn cyfeilio i’r orymdaith. Yn Iwerddon hefyd mae ‘Hela’r Dryw’ wedi cychwyn eto ar ôl marw yn llwyr mwy neu lai. Yn ffodus mae digon o hen bobl yn cofio trefn y ddefod ac felly mae’r arferiad yn cael ei drosglwyddo ymlaen unwaith eto.  Yng Nghymru nid yw’r caneuon dryw bellach yn rhan o’r ddefod ond maent yn dal i fodoli.1 O’u canu mewn sefyllfa gymdeithasol neu dymhorol, maen nhw’n ganeuon hwyliog, dramatig weithiau, ac yn haeddu bod yn rhan o’ch casgliad ‘gwyliau’ eleni.

Am trac
cyfeiriadur trac
dyddiadur trac
trac: Traddodiadau Cerdd Cymru
© 2020 trac Elusen Gofrestredig: 1085422;
Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014

RHESTRWCH I GAEL E-NEWYDDION+

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Blwch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org