Iolo Morganwg : arwr alawon gwerin

I ni sy’n astudio, perfformio ac ymddiddori yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru nid hawdd fydd teithio i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mro Morgannwg heb ystyried cyfraniad un gwr nodedig at y traddodiad hwnnw ddwy ganrif a mwy yn ôl. Y cymeriad lliwgar, eofn a chellweirus hwnnw oedd Iolo Morganwg. Cyfrifir Iolo heddiw fel casglwr alawon gwerin cyntaf Cymru. Ef oedd y cyntaf i fynd ati i gofnodi alawon gwerin ei gynefin a’u rhoi ar bapur, y cyntaf i greu cofnod o gyd-destun cymdeithasol yr alawon, a’r cyntaf hefyd i sylweddoli gwerth y traddodiad llafar, bregus hwnnw, a oedd ar y pryd yn bodoli ar dafod leferydd yn unig. Bu Iolo yn cofnodi alawon gwerin Bro Morgannwg rhwng 1795 a 1806. Eleni, ar faes yr Eisteddfod, dafliad carreg o’r man lle ganed Iolo, bydd cyfrol o’i gasgliad o alawon gwerin, gan gynnwys rhagymadrodd a nodiadau i gyd-fynd â’r alawon, yn cael ei lansio am y tro cyntaf erioed.

Pan fyddwch yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol eleni, oedwch am ennyd i ddychmygu’r olygfa fyddai Iolo wedi’i weld dros ddwy ganrif yn ôl, ar drothwy’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y dyddiau hynny byddai llanciau ifanc yn aredig y tir drwy dywys yr ychen o dan yr iau, dan ganu tribannau wysg eu cefnau er mwyn cymell yr anifeiliaid yn eu blaenau. Roedd y triban yn fesur a apeliai’n fawr at drigolion Bro Morgannwg y cyfnod, ac yn arbennig efallai at gathreiwyr Morgannwg. Y ‘cathreiwr’ oedd y term a ddefnyddid yn siroedd y de ar gyfer y sawl a ganai i’r ychen, a’r enw cyfatebol yng ngogledd Cymru oedd ‘geilwad ychen’. Cofnododd Iolo amryw dribannau Morgannwg, gan gynnwys yr un canlynol:

Merch ifanc deg ei dwyfron,
Yw’r un a gâr fy nghalon,
Does bwyll na synnwyr yn fy mhen,
Ond sôn am Wen lliw’r hinon.

Ganed Iolo ym Mhennon, ym mhlwyf Llancarfan, ar 10 Mawrth 1747. Ym 1754 symudodd y teulu i Drefflemin, sef cartref Iolo a’i deulu hyd weddill ei oes, hyd nes 18 Rhagfyr, 1826. Hefyd, os digwIolo-Morgannwg-plaqueydd i chi deithio drwy’r Bontfaen fe welwch chi gofeb ar wal ar y brif stryd, gyferbyn â chloc y Neuadd, i ddynodi lleoliad siop lyfrau Iolo.

O’r 88 alaw werin a gofnododd Iolo, rhai gyda geiriau ac eraill heb, mae pedair alaw ar bymtheg yn gysylltiedig â dathliadau tymhorol (megis Calan Mai, y Nadolig a chanu gwasael), pymtheg ohonynt y gellir eu priodoli’n ganeuon serch (sy’n cyfeirio at draddodiad hynafol y canu llatai a’r canu mawl), deg ohonynt yn alawon galwedigaethol (er enghraifft caneuon gyrru’r ychen ac alawon godro), a’r gweddill yn alawon amrywiol sy’n cyfeirio at gymeriadau a sefyllfaoedd cyffredin bob dydd.

Fel y gwelwch o’r llun uchod, ar droed fyddai Iolo yn crwydro’r fro, ei ‘boclyfr’ mewn un llaw a’i ffon yn y llall. Cofnododd Iolo amryw o’r alawon gwerin yn y llyfryn bychan hwn, sy’n dwyn y teitl swyddogol  ‘Casgledydd Penn Ffordd’ (sydd bellach i’w weld yng nghasgliadau llawysgrifol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth). Mae’r casgliad hwn yn gyforiog o sylwadau a nodiadau eglurhaol yn llawysgrifen Iolo, yn ogystal â’r alawon eu hunain wrth gwrs, sy’n ffynhonnell werthfawr ar gyfer y darllenydd cyffredin sy’n awyddus i ddarganfod peth o’r dirgelwch a’r rhamant sy’n cwmpasu’r alawon.

Esgorodd gweledigaeth Iolo maes o law ar adfywiad yn hanes cerddoriaeth werin Cymru. Yn sgil ei esiampl ef, yn casglu a chofnodi agweddau ar ganu gwerin ei ddydd, daeth eraill, erbyn degawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, i sylweddoli gwerth a phwer dal gafael a chroniclo deunydd llafar. Yn wyneb newidiadau cymdeithasol, amaethyddol, diwydiannol a cherddorol mawr yr oes, yn ddi-os, byddai traddodiadau llafar, brodorol, wedi mynd ar ddifancoll. Mae ein diolch felly yn fawr i waith dyfal casglyddion a hynafiaethwyr y gorffennol.

Erbyn heddiw mae gennym ni yng Nghymru Amgueddfa Genedlaethol, Amgueddfa Werin Sain Ffagan (sydd nepell o faes yr Eisteddfod eleni) a Llyfrgell Genedlaethol i storio hen drysorau’r gorffennol, i gadw cofnod o’r hen arferion, yr hen lawysgrifau, a’r hen alawon. Fodd bynnag, breuddwyd yn unig oedd y sefydliadau hyn yn nyddiau Iolo. Roedd casglu a diogelu’r hanes, y caneuon, y cerddi ac yn y blaen, yn beth newydd sbon ar y pryd, a’r cyfrifoldeb yn gorffwys ar ysgwyddau unigolion yn amlach na pheidio. Roedd eu gwaith yn llafur cariad amhrisiadwy i genedlaethau’r dyfodol. Yn sicr, heb waith a dyfalbarhad pobl fel Iolo Morganwg fe fyddai ein treftadaeth a’n traddodiad cerddorol ni heddiw yn llawer tlotach.

gan Leila Salisbury

Am trac
cyfeiriadur trac
dyddiadur trac
trac: Traddodiadau Cerdd Cymru
© 2020 trac Elusen Gofrestredig: 1085422;
Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014

RHESTRWCH I GAEL E-NEWYDDION+

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Blwch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org