Y Fari Lwyd

web-traditions-mariMae’r Fari Lwyd yn unigryw i Gymreig, ond hefyd yn rhan o draddodiad sy’n ymestyn ar draws Ewrop a thu hwnt, ac yn ôl i gyfnod y ffigyrau siamanaidd cynharaf yn eu mygydau anifail a welir mewn paentiadau mewn ogofau.Mae arferion tymhorol, yn cynnwys caneuon a rhannu bwyd a diod yn digwydd trwy gydol y flwyddyn, ond mae defod ganolgaeaf sy’n canolbwyntio ar geffyl yn ein cyfeirio at fath arbennig o arfer gwerin. Mae’r ceffyl – ac yn arbennig y Ceffyl Gwyn – wastad wedi hawlio lle eiconig ym mytholeg ac ymwybyddiaeth Ynysoedd Prydain. Meddyliwch am y ceffylau a dorrwyd i sialc y Downs; neu Rhiannon y Mabinogi sydd, yn ôl yr ysgolheigion, yn cyfateb i’r dduwies Epona; neu’r tabw traddodiadol sy’n bodoli ym Mhrydain yn erbyn bwyta cig ceffyl, heb sôn am y llu o arferion gwerin megis y Padstow Obby Oss neu Hooden Hoss Sir Gaint.

Mari Lwyd-Llangynwyd-1904Mae traddodiad cryfaf a mwyaf hir-hoedlog y Fari Lwyd i’w weld yn Llangynwyd yn Ne Cymru, ond mewn mannau eraill mae’r traddodiad wedi’i ail-sefydlu ers sawl degawd. Peth byw sy’n cael ei adnewyddu o hyd ac o hyd yw traddodiad; fel arall mae’n dirywio i statws ail-greu hanesyddol. Mae ‘na lawer o amrywiadau ar draddodiad y Fari Lwyd ar draws Cymru. Yng ngogledd ddwyrain Cymru mae’r Fari yn rhan o ddathliadau Cadi Ha Calan Mai. Mae gan (neu’n hytrach, roedd gan) Sir Fôn a Gwyr eu harferion Mari penodol eu hunain. Mae partïon Mari yn weithredol ledled Cymru, ac mae rhai newydd yn cael eu sefydlu yn flynyddol. Mae hynodrwydd lleol yn beth braf, felly dewch o hyd i’ch traddodiad lleol, yn fyw neu’n farw, a’i addasu er mwyn rhoi bywyd newydd iddo.

O’r holl arferion ceffyl a welir yn Ynysoedd Prydain, dim ond y Fari Lwyd sy’n rhoi amlygrwydd i gystadleuaeth farddoni. Efallai bod y Pwnco yn her mewn rhai ardaloedd o Gymru yr 21ain ganrif nawr bod beirdd gwlad yn brinnach, ond p’un ai eu bod wedi’u dysgu neu’n fyrfyfr, mae’r geiriau yn a’r gystadleuaeth yn rhoi’r cyfle i gynnwys cyfeiriadau lleol ac amserol, ac yn arddangos cariad traddodiadol y Cymry at iaith a barddoniaeth.

Yn draddodiadol, ‘rydym yn adnabod y Fari Lwyd fel penglog ceffyl ar bolyn, wedi’i addurno gyda rhubannau a chlychau, ac yn ‘gwisgo’ gwaelodion poteli yn lle’r llygaid. Y gaeaf hwn, serch hynny, ‘rydym wedi sylwi ar Farïau Llwyd tra gwahanol yn sleifio o gwmpas Cymru. Mae rhai ohonynt fel, er enghraifft, Mari Caerfyrddin (ar dudalen 11) neu’n hytrach y Fari Droellog, wedi’i hardduno â Deuodau Allyrru Golau (LEDau) a goleuadau’n fflachio, tra bod un arall wedi’i chwistrell-baentio’n lliw aur, ac yng nghymunedau ac ysgolion ar draws y wlad, ‘rydym wedi gweld y Fari Lwyd pac-fflat yn codi helynt mawr!

Teithiodd swyddog prosiect trac, Angharad Jenkins o gwmpas y wlad yn darparu gweithdai Mari Lwyd mewn ysgolion a gerbron grwpiau cymunedol. Mae hi wedi bod yn ffodus iawn o weithio gyda phobl fel Mair Tomos Ifans, Huw Roberts, Pat Smith, a Viv Morgan a Phil Larcher i ddod â chymunedau at eu gilydd i ddysgu am y traddodiad unigryw Cymreig hwn.

Mae pobl nid yn unig wedi cael y cyfle i ddysgu am y cefndir, ond hefyd wedi dysgu’r caneuon sy’n gysylltiedig â’r traddodiad, ac am y gystadleuaeth ‘bwnco’, gyda rhai o’r cyfranogwyr yn mynd ati i ysgrifennu eu pennillion eu hun.

Pan nad yw hi wedi bod yn bosibl ffeindio Mari Lwyd go-iawn, mae’r Fari Lwyd pac-fflat, a ddyluniwyd gan David Pitt, wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol! Maen nhw wedi cael eu croesawu’n wresog, yn enwedig gan grwpiau ysgol a fydd yn defnyddio’r pecyn fel adnodd yn y dyfodol.

Mae trac wedi gweithio gyda mwy na 400 o blant mewn ysgolion yn Yr Wyddgrug, Dolgellau,Tywyn, Llanelli, Abertawe, Corris a Nefyn, ac mae’r cyfan wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Celfyddydau Cymru. ‘Rydym hefyd wedi bod yn ffodus i weithio gyda mudiadau partner megis Urdd Gobaith Cymru, Menter Iaith Sir y Fflint ac Oriel Gelf y Glyn Vivian, Abertawe.

Fel rhan o’r prosiect ‘rydym wedi cyhoeddi llyfryn a ddarluniwyd yn hyfryd.  Yn y llyfryn, mae’r hanesydd Rhiannon Ifans yn esbonio hanes yr arfer ac yn cynnig fersiynau o nifer o ganeuon y Fari, ynghyd â chyfieithiadau o’r pennillion.  Mae llawer Mari Lwyd yn ymddangos yn y llyfryn, ac hoffwn ni ddiolch i bawb a anfonodd luniau o’u Marïau Llwydion hwythau atom ni. ‘Rydym wedi gweithio gyda’r gwneuthurwr ffilmiau Craig Chapman i gynhyrchu fideo byr i werthuso’r prosiect.

‘Rydym yn ffyddiog y bydd y paciau-fflat yn adnodd ar gyfer dysgu yn y dyfodol, ac y byddant yn codi ymwybyddiaeth am y traddodiad Cymreig unigryw hwn. Maen nhw ar gael oddiwrth trac am bris o £40 + £8 p&p, ac mae hyn yn cynnwys y penglog ceffyl adeiladu-eich-hun, dolen i gyfres o fideos ar YouTube sy’n eich tywys drwy’r broses o greu eich Mari a’r llyfryn yn rhoi’r holl fanylion am yr arfer a fydd arnoch eu hangen er mwyn i chi allu ymuno â’r dathlu.

Gallwch archebu eich pecyn Mari Lwyd fflat-pac ar waelod y dudalen hon. Mae cyflenwi trwy negesydd yn ddelfrydol o fewn 3 diwrnod.

slider-mari-urdd

Save

Prynwch eich pecyn y Fari Lwyd yma (mae’n cynnwys benglog cardfwrdd, llyfr a dolen i fidoes ‘sut-i-wneud’)

Mari Lwyd kit

Prynwch lyfr y Fari Lwyd yma. Mae’n ddwyiethog gyda 72 tudalen: lluniau, caneuon a chefndir.

Llyfr y Fari Lwyd

Am trac
cyfeiriadur trac
dyddiadur trac
trac: Traddodiadau Cerdd Cymru
© 2019 trac Elusen Gofrestredig: 1085422;
Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014

RHESTRWCH I GAEL E-NEWYDDION+

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Blwch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org