Plygain

gan Dr Rhiannon Ifans

Un o’m pleserau mawr i ar noson aeafol, pan mae hi’n rhewi’n galed ac yn bygwth eira mawr, yw codi oddi wrth y tân a chychwyn ar daith hir i sir Drefaldwyn. Pam? Am mai dyna lle mae’r traddodiad plygeiniol ar ei gryfaf, a does dim yn well gen i na chael ymuno hefo’r carolwyr yno i gymryd rhan mewn gwasanaeth plygain.

Mae’r carolau a glywch chi mewn gwasanaeth plygain yn rhai unigryw i ni’r Cymry. Mae gennym ni ein cerdd dant a’n cynghanedd, adrodd pwnc, a hefyd ein carolau plygain sy’n rhoi stamp gwahanol arnom ni fel cenedl. Mae’r carolau hyn yn wahanol iawn i’r math o garol a glywir mewn noson garolau dros y ffin, a hyd yn oed mewn aml noson garolau yng Nghymru.

Mae’r plygain yn dechrau hefo rhannau arweiniol yr Hwyrol Weddi. Darllenir llith addas, offrymir gweddi fer, a chenir carol neu emyn cynulleidfaol. Y llith arferol yw stori’r bugeiliaid a’r angylion o Efengyl Luc (Luc 2: 8–20), ond os yw’r plygain yn cael ei gynnal ym mis Ionawr yna efallai y clywn ni stori’r doethion o Efengyl Mathew. Ar ôl y rhannau dechreuol mae’r ficer yn cyhoeddi bod y ‘Plygain yn agored’. A dyna pryd mae’r unawdwyr, deuawdwyr, triawdau, partïon (corau mawr weithiau!) yn dod ymlaen yn eu tro i gyflwyno eu carolau.

Pan mae pawb wedi canu ei garol mae ail gylch, lle mae’r carolwyr yn canu ail garol a hynny yn nhrefn ymddangos y cylch cyntaf.    Dim ond unwaith mae pob carol i gael ei chanu yn yr un gwasanaeth. Ar y diwedd i gyd, mae’r dynion, a’r dynion yn unig, yn dod at ei gilydd i ganu ‘Carol y Swper’. A dyna ni – y peth symlaf a gynlluniwyd erioed.

Trysor pennaf y carolwyr yw’r llyfr carolau y maen nhw’n canu ohono. Yn achos y partïon hynaf, mae ganddynt hwy lyfr teuluol o garolau, a hwnnw’n dwyn ôl traul dychrynllyd. Ynddo mae amrywiaeth o garolau wedi eu copïo allan â llaw o’r cyfrolau printiedig, neu oddi ar lafar. Ac un o’r cyfrolau print hynny yw fy nhrysor innau.
Drwy deulu fy ng^wr, Dafydd, y daeth hwn i’n cartref. Cyfrol ‘amryw’ yw hon, sef cyfrol sy’n cynnwys amrywiol lyfrau a phamffledi wedi eu gwnïo at ei gilydd. Un o’r darnau hynny yw Bardd a Byrddau o waith Jonathan Hughes, Llangollen (1721–1805), ac mae yn honno gasgliad nobl o garolau plygain. Mae’r gyfrol ‘amryw’ hon yn eithaf rhacs, wedi ei gwnïo at ei gilydd yn y ddeunawfed ganrif mewn dull reit amrwd, digon amaturaidd. Fe’i rhwymwyd mewn lledr brown ac mae arni olion dolenni lledr a fyddai wedi clymu’r cyfan at ei gilydd, un clawr wrth y llall.

Yr unig dystiolaeth y tu mewn i’r llyfr rhacs hwn o ledr brown yw llofnod rhywun o’r enw David Morgan. Prynodd taid Dafydd y gyfrol hon yn ail law: yr oedd ef, John David Evans (1875–1938), yn gasglwr llyfrau brwd iawn. Nid oedd yn garolwr ei hun ond yr oedd yn warden yn eglwys Gwnnws yn ymyl Ystrad Meurig, plwyf gwledig iawn yng nghanol Ceredigion.

Mae’r traddodiad o gynnal gwasanaeth plygain wedi hen ddarfod amdano yn ardal Gwnws. Serch hynny, wedi’r blynyddoedd mudan fe gododd y traddodiad ei ben unwaith eto ym mhentref Penrhyn-coch, gwta bymtheng milltir o Gwnnws. Ac yn sgil yr adfywiad hwn yn y traddodiad bydd lle anrhydeddus i’r gyfrol ‘amryw’ hon a’i charolau o fewn ein teulu ni unwaith eto.

Gallwch ddod o hyd i mwy o wybodaeth am y plygain, gan gynnwys ffeiliau sain o garolau Plygain, ynghyd â gwybodaeth am draddodiadau eraill y Nadolig ar wefan Sain Ffagan. Ewch i www.museumwales.ac.uk/cy/277

Am trac
cyfeiriadur trac
dyddiadur trac
trac: Traddodiadau Cerdd Cymru
© 2019 trac Elusen Gofrestredig: 1085422;
Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014

RHESTRWCH I GAEL E-NEWYDDION+

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Blwch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org