Siantis Môr Cymreig

Dwylo dros y môr: Mick Tems yn sôn am ganu siantis môr Cymreig

Ganwyd Stan Hugill, y siantïwr diwethaf, yn Hoylake, swydd Caer, ar 19 Tachwedd, 1906 a bu farw yn Aberystwyth, yn 86 oed, ar 13 Mai, 1992. Byddai Stan wedi dathlu ei benblwydd yn 100 oed ar Dachwedd 19. Setlodd yn Aberdyfi, lle y  priododd Bronwen yn 1953; roedd Bronwen a’u dau fab, Phillip a Martin, yno i lansio y chweched a’r olaf o lyfrau Stan The Bosun’s Locker.

Roedd Stan hefyd yn fosn ac yn hyfforddwr yn ysgol Outward Bound Aberdyfi, yn garcharor rhyfel, yn rhugl yn Siapanaeg, Sbaeneg a sawl iaith y dwyrain, yn arlunydd talentog o destunau morwrol, yn storïwr penigamp ac yn ohebydd i’r BBC a’r Western Mail. Hwyliodd fel siantïwr ar y Garthpool, y llong hwylio fasnachol Brydeinig olaf, ar ei mordaith olaf a ddaeth i ben pan y’i drylliwyd yn 1929 yn agos i Ynysoedd Cape Verde. Ymroddodd Stan ei hun i astudio siantis, a oedd yn hanfodol fel caneuon gwaith, a fe oedd awdur beibl y siantïwr, Shanties From The Seven Seas. Dysgais sianti facaronig anarferol oddiwrth Stan, Hob y Deri Dando, a oedd wedi codi oddiwrth hen forwr yn Aberdyfi:

I’ll sing the bass if you’ll sing the solo,
Hob y deri dando!
All about the clipper ship, the Marco Polo,
Can y gan y eto!…

Ond y cyfeillgarwch na wyr fawr neb amdano rhwng Stan a’r Athro J. Glyn Davies o Brifysgol Lerpwl, awdur Fflat Huw Puw, Cerddi Portinllaen a sawl llyfr arall o siantis Cymraeg wedi eu cyfansoddi, yw’r allwedd bwysig sy’n cysylltu’r sianti yma o Aberdyfi gyda’r Marco Polo, hen gliper enwog a oedd wedi gweld gwell dyddiau.

Roedd Stan yn llythyra â Davies, a oedd yn gweithio i’r Cambrian Line ac a fu farw yn1953. Mae Davies yn disgrifio Sir Fôn a Sir Gaernarfon, Sir Benfro a Cheredigion fel y siroedd morwrol pwysig, ac yn dweud bod y canran o Gymry a oedd yn ymwneud â’r môr yn  llawer uwch na’r canran Seisnig. Mae’n dweud: “Roedd Llyn gyfan wedi’i ymrwymo i’r môr. Roedd hyd yn oed y ceirtiau gwair yn eich atgoffa ohono; gyda phlethen lygad, hwylraff, cwlwm croes a chwlwm coed, a diwedd pob rhaff wedi’i gwblhau’n gelfydd yn steil y môr”.

Roedd rhaid i berchnogion llongau Cymreig ddod o hyd i gyfranddalwyr yng Nghymru, ond roedd e’n bolisi ariannol da i apwyntio Cymro fel capten ac i gael swyddogion a oedd yn  Gymry. Roedd hyn yn helpu i ennyn hyder. Yn wahanol iawn i brofiad Stan, a oedd yn gyfarwydd â steil Lerpwl o ddodi criw at ei gilydd heb boeni os oedd y morwyr yn gallu canu neu beidio, byddai capteiniaid Cymreig yn dewis y criw yn ofalus – bechgyn a oedd wedi tyfu i fyny gyda’u gilydd, a oedd wedi canu yn y côr, ac yn gallu canu  mewn cynghanedd tri-llais yn naturiol. Fel y dwedodd Davies gydag eironi: “Rwyf wedi clywed criwiau o Saeson yn canu siantis, ond roeddwn i wastad yn rhy agos atynt i’w clywed yn iawn. Efallai y byddai pellter o gwpl o filltiroedd wedi meddalu’r swn; byddai ugain milltir wedi bod yn well fyth”.

Dywedai Davies taw Cymraeg oedd y famiaith, hynny yw at bopeth ond gorchmynion a siantis. Yn anffodus, doedd dim siantis yn y Gymraeg – gydag isafswm gweithlu o hyd at bump, doedd dim angen caneuon gwaith.

Roedd hi’n arfer gan y  Cambrian Line i brynu hen longau, felly daethant i berchnogi’r Marco Polo, y Donald McKay a’r Red Jacket. Roedd y clipers unwaith eto mewn dwylo Cymreig.

Roedd Davies am gyfansoddi llyfrau o siantis iaith-Gymraeg i blant er mwyn cyflwyno rhywbeth gwerthfawr iddynt. Seiliwyd sawl un o’r siantis ar ganu’r dynion ar y llongau Cymreig. Mae beirniaid yn wfftio’r gwaith fel deunydd ersatz i blant – ond fe ddefnyddiodd Davies ei wybodaeth gerddorol eang a’i glust miniog i gymharu’r amrywiadau cynnil, a oedd yn drwm dan ddylanwad canu Cymreig. Hyd yn oed heddiw, gallwn pinbwyntio’r steil Gymreig pan glywn sianti fôr. Mae Fflat Huw Puw a llyfrau Davies yn fewnwelediad diddorol iawn i gynghanedd forwrol Gymreig.

 

Am trac
cyfeiriadur trac
dyddiadur trac
trac: Traddodiadau Cerdd Cymru
© 2019 trac Elusen Gofrestredig: 1085422;
Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014

RHESTRWCH I GAEL E-NEWYDDION+

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Blwch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org